Pwerdy-Powerhouse - Y Gweithdy

Pwerdy-Powerhouse LogoY Gweithdy

Yn ychwanegol at y Pwerdy, mae gyda ni adeilad newydd, Y Gweithdy, sydd yn addas ar gyfer grwpiau bychain i gynnal gweithdai, yn cynnwys cegin. Mae’r gweithdy’n addas ar gyfer gweithdai clai ac argraffu.

Cysylltwch ni:

Penelope Clark 01559 384 849
Ebost: post@pwerdypowerhouse.co.uk


Gweler y tudalen Llogi'r Oriel am wybodaeth am gynnal Arddangosfeydd yn y Pwerdy - Powerhouse

 

Gwybodaeth ar gyfer  cyhoeddusrwydd.

Pan fyddwch yn llogi’r Pwerdy –Powerhouse byddwch yn gyfrifol am hysbysebu eich digwyddiad/cwrs/gweithdy/arddangosfa.

Fodd bynnag os danfonwch eich hysbyseb atom medrwn eich cynorthwyo gyda’ch cyhoeddusrwydd trwy roi’r hysbyseb ar ein gwefan, ein cyfryngau cymdeithasol a thrwy ein newyddlen. Os gwelwch yn dda cwblhewch y ffurflen isod fel bod gennym y wybodaeth gywir.
 
Os gwelwch yn dda rhowch eich gwybodaeth yn Gymraeg a Saesneg. Os ydych angen cymorth gyda chyfieithu rhowch wybod inni a medrwn eich helpu.
 
  • Teitl: eich cwrs/gweithdy digwyddiad/arddangosfa ( yn Gymraeg a Saesneg) 
  • Dyddiad/au: 
  • Amser agor: 
  • Amser cau: 
  • Manylion cyswllt : ( ar gyfer archebu lle a rhagor o fanylion) 
  • Cost y digwyddiad: 
  • Disgrifiad  ( dyma  beth fydd yn mynd ar ein gwefan etc.) 
  • Delwedd:
    • Os gwelwch yn dda danfowch eich delwedd (jpg,pdf,png) rhywbeth fydd yn darlunio eich digwyddiad, mae poster yn dderbyniol.
    • Dylai’r darlun fod o leia 1920 pixel o led a 72dpi. Er, os yw’r eglurder a maint yn fwy medrwn ei ddefnyddio. (Medrir gwneud delwedd mawr yn llai ond ni fedrir gwneud delwedd bach yn fawr)
 
Os gwelwch yn dda e bostiwch i post@pwerdypowerhouse.co.uk  o leia bythefnos cyn i’ch digwyddiad gymryd lle.
 
Lawrlwythwch y ffurflen cyhoeddusrwydd yma.