Llogi’r Pwerdy
Gellir llogi ystafelloedd fel y ganlyn. Gofynnwch am gael gweld ein telerau ac amodau cyn archebu.
- Ystafell Teifi Eisteddfa ar gyfer 40 ac yn addas ar gyfer cyfarfodydd.
- Ystafell Tyweli Eisteddfa ar gyfer 30 person i eistedd ac yn addas ar gyfer cyfarfodydd.
- Cegin gyda dwr poeth ac oer, wrn te, cyllyll a ffyrc, llestri, troli gweini gyda hobs, eisteddfa ar gyfer 10 person.
- Neuadd allanol, ardal ar gyfer bwyta yn yur awyr agored yn yr Haf, eisteddfa ar gyfer 10 person.
Yn addas i’w logi ar gyfer partion plant ac oedolion. Cyfleusterau newid babanod ar gael . Dim trwydded ond dewch a’ch diodydd.
Mynediad a pharcio i’r anabl.
Signal ar gyfer ffon symudol a wi-fi ar gyfer gliniadur.
Yswiriant atebolrwydd Cyhoeddus.
Tystysgrif Tan cyfredol.
Yn ychwanegol at y Pwerdy, mae gyda ni adeilad newydd, Y Gweithdy, sydd yn addas ar gyfer grwpiau bychain i gynnal gweithdai, yn cynnwys cegin. Mae’r gweithdy’n addas ar gyfer gweithdai clai ac argraffu.
Medr llogi pob ystafell ar gyfer arddangosfeydd, yn cynnwys reiliau crog haqwdd i’w crogi gyda gwiail a bachau’n gynwysiedig, os gwelwch yn dda cysylltwch a ni am brisiau, costau cystadleuol ac yn synhwyrol gogyfer a chomisiwn ar werthiant. Gweler y tudalen Llogi'r Oriel am wybodaeth am gynnal Arddangosfeydd yn y Pwerdy - Powerhouse
Cysylltwch ni:
Penelope Clark 01559 384 849
Suzanne Hughes-Owen on 01559 364947 (gyda'r nos yn unig)
Ebost: post@pwerdypowerhouse.co.uk
Gweler y tudalen Llogi'r Oriel am wybodaeth am gynnal Arddangosfeydd yn y Pwerdy - Powerhouse
Gwybodaeth ar gyfer cyhoeddusrwydd.
Pan fyddwch yn llogi’r Pwerdy –Powerhouse byddwch yn gyfrifol am hysbysebu eich digwyddiad/cwrs/gweithdy/arddangosfa.Fodd bynnag os danfonwch eich hysbyseb atom medrwn eich cynorthwyo gyda’ch cyhoeddusrwydd trwy roi’r hysbyseb ar ein gwefan, ein cyfryngau cymdeithasol a thrwy ein newyddlen. Os gwelwch yn dda cwblhewch y ffurflen isod fel bod gennym y wybodaeth gywir.
Os gwelwch yn dda rhowch eich gwybodaeth yn Gymraeg a Saesneg. Os ydych angen cymorth gyda chyfieithu rhowch wybod inni a medrwn eich helpu.
- Teitl: eich cwrs/gweithdy digwyddiad/arddangosfa ( yn Gymraeg a Saesneg)
- Dyddiad/au:
- Amser agor:
- Amser cau:
- Manylion cyswllt : ( ar gyfer archebu lle a rhagor o fanylion)
- Cost y digwyddiad:
- Disgrifiad ( dyma beth fydd yn mynd ar ein gwefan etc.)
- Delwedd:
- Os gwelwch yn dda danfowch eich delwedd (jpg,pdf,png) rhywbeth fydd yn darlunio eich digwyddiad, mae poster yn dderbyniol.
- Dylai’r darlun fod o leia 1920 pixel o led a 72dpi. Er, os yw’r eglurder a maint yn fwy medrwn ei ddefnyddio. (Medrir gwneud delwedd mawr yn llai ond ni fedrir gwneud delwedd bach yn fawr)
Os gwelwch yn dda e bostiwch i post@pwerdypowerhouse.co.uk o leia bythefnos cyn i’ch digwyddiad gymryd lle.
Lawrlwythwch y ffurflen cyhoeddusrwydd yma.
Crefftau y Pasg yn y Pwerdy-Powerhouse