Pwerdy-Powerhouse - Llogi'r Oriel

Pwerdy-Powerhouse LogoLlogi'r Oriel

Mae ein “Canolfan Gymunedol a Chelfyddydau” yn cael ei chefnogi gan wirfoddolwyr o’r gymuned leol, ac rydym yn darparu  amgylchedd o ansawdd uchel gyda dewis o ofod naill ai yn ystafelloedd  Teifi,  Tyweli  neu yn y  y balconi dan dô. Mae gan bob ystafell  system crog proffesiynol. Mae pob gofod o faint gwahanol, byddem yn argymell  i chi gysylltu a ni er mwyn trefnu amser  a dyddiad  cyfleus i chi ymweld ar orieler mwyn  mesur y gofod. Mae gyda ni gegin weithredol llawn  gyda oergell fechan a ffwrn mecrodon. Rydym yn gofyn am gyfraniad am de a choffi os bydd defnydd o gyflenwad y Pwerdy  yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cost trydan.

Mae’r canolfan wedi ei gosod ar gyfer eich dibenion chi i  arddangos a goruchwilio  eich arddangosfa bersonol. Nid ydym yn medru cynnig peiriant talu a cherdyn na pheiriannau arian am unrhyw werthiannau ond mae croeso i chi ddod â'ch peiriant eich hun. Mae Wi-Fi ar gael. Taliadau  uniongyrchol i’r artist. Mae’r ystafelloedd yn addas ar gyfer gweithdai, darlith,ac arddangosiadu. Byrddau a chadeiriau at eich defnydd. Gofynnir  tâl rhesymol am ddefnyddio ‘r argraffydd.

Am fwy o wybdoaeth cysylltwch â Penelope Clark 01559 384 849 neu ar ebost: post@pwerdypowerhouse.co.uk
Gofynnwch am gael gweld ein telerau ac amodau cyn archebu.

Lawrlwythwch y Cytundeb isod fel ffeil PDF, (also available in English).

Pwerdy - Powerhouse  Gwybodaeth llogi‘r Oriel Gelf

Floor plans of the Pwerdy-Powerhouse

Gwybodaeth ar gyfer  cyhoeddusrwydd.

Pan fyddwch yn llogi’r Pwerdy –Powerhouse byddwch yn gyfrifol am hysbysebu eich digwyddiad/cwrs/gweithdy/arddangosfa.

Fodd bynnag os danfonwch eich hysbyseb atom medrwn eich cynorthwyo gyda’ch cyhoeddusrwydd trwy roi’r hysbyseb ar ein gwefan, ein cyfryngau cymdeithasol a thrwy ein newyddlen. Os gwelwch yn dda cwblhewch y ffurflen isod fel bod gennym y wybodaeth gywir.
 
Os gwelwch yn dda rhowch eich gwybodaeth yn Gymraeg a Saesneg. Os ydych angen cymorth gyda chyfieithu rhowch wybod inni a medrwn eich helpu.
 
  • Teitl: eich cwrs/gweithdy digwyddiad/arddangosfa ( yn Gymraeg a Saesneg) 
  • Dyddiad/au: 
  • Amser agor: 
  • Amser cau: 
  • Manylion cyswllt : ( ar gyfer archebu lle a rhagor o fanylion) 
  • Cost y digwyddiad: 
  • Disgrifiad  ( dyma  beth fydd yn mynd ar ein gwefan etc.) 
  • Delwedd:
    • Os gwelwch yn dda danfowch eich delwedd (jpg,pdf,png) rhywbeth fydd yn darlunio eich digwyddiad, mae poster yn dderbyniol.
    • Dylai’r darlun fod o leia 1920 pixel o led a 72dpi. Er, os yw’r eglurder a maint yn fwy medrwn ei ddefnyddio. (Medrir gwneud delwedd mawr yn llai ond ni fedrir gwneud delwedd bach yn fawr)

 
Os gwelwch yn dda e bostiwch i post@pwerdypowerhouse.co.uk  o leia bythefnos cyn i’ch digwyddiad gymryd lle.
 
Lawrlwythwch y ffurflen cyhoeddusrwydd yma.


 

Lluniau o'r Sioe'r Gwanwyn 2022