Pwerdy-Powerhouse - Amdano Ni

Pwerdy-Powerhouse LogoAmdano Ni

Bydd y Ganolfan  Gymunedol a Chelfyddydol yn le i gyfarfod, cael hwyl a dysgu.

Cyn y gwaith adnewyddu roedd y ganolfan eisioes yn cael ei defnyddio ar gyfer dosbarthiadau celf, gweithdai, cerddoriaeth, cyfarfodydd a digwyddiadu cymdeithasol, diwrnodau agored, sesiynau hyfforddi, arddangosfeydd clef , Hanes lleol, gyda hyn oll yn gweithio mewn partneriaeth gyda grŵp "Ceufad Llandysul".

Fel y dywedodd  un person lleol, sy bellach yn ddarlunydd adnabyddus "Dechreuodd y cyfan mewn canolfan ddysgu gydol oes wnes i fynychu ar ôl ymddeol. Roedd y dosbarth celf ar fore Mawrth wedi rhoi bywyd newydd imi ac fe wnes i ddarganfod sgiliau nad o ni'n gwybod eu bod gen i".

Dyma felly yw gweledigaeth Y Pwerdy i ddatblygu fel canolfan daparu cyfleoedd creadigol ar gyfer cwricwlwm amgen, i roi cyfle i bawb yn y gymuned  gael mynediad i ddysgu a chynhwysiant a fydd yn cwmpasu ac yn cynnwys anghenion pawb.  Bydd hyn yn cyrraedd nodau ac amcanion Y Pwerdy a dyna oedd bwriad y grŵp ymroddedig o wirfoddolwyr sydd wedi gweithio gyda'i gilydd  am 10 mlynedd i ddod a'r adeilad yn ôl at ddefnydd  y gymuned.
Rydym yn chwilio gwirfoddolwyr i'n cynorthwyo yn Y Pwerdy, os  oes gennych amser rhydd a bod gennych awydd ymuno yn yr hwyl o drefnu gwahanol weithgareddau gan gynnwys gweithgareddau ar gyfer plant, os gwelwch yn dda cysylltwch gyda Suzanne  rhif cyswllt 0155936 4947 neu'r Pwerdy 01559 364820.

Mae'r adeilad UNIGRYW yma wedi ennyn diddordeb o sawl cyfeiriad ac yn dilyn cyfarfod cyhoeddus yn 1999 ffurfiwyd pwyllgor newydd wedi ei ddewis yn ddemocrataidd, yn cynnwys cynrychiolwyr o dri cyngor cymunedol, dau gynghorydd sir i gynrychioli  eu priod awdurdodau ynghyd ag unigolion brwdfrydig o wahanol gymdeithasau a oedd yn dangos diddordeb mewn adfywio'r pentre.

Roedd gan y pwyllgor newydd weledigaeth i adnewyddu'r adeilad, i gyflawni gofynion cyfredol. Mabwysiadwyd statws elesennol mewn cyfarfod ym mis Mai 2002.

Ym mis Rhagfyr 2006 cofrestrodd y pwyllgor fel Cwmni gyda  "Thŷ'r Cwmniau"(Companies House) .
Mae'r grŵp ymroddedig o wirfoddolwyr wedi parhau i sicrhau cynnydd y gwaith trwy gydol y deng mlynedd diwethaf gyda chefnogaeth gwerthfawr trigolion y gymuned.

Pwerdy Canolfan Gymunedol a Chelfyddydau - Powerhouse Community and Arts Centre
c/o The Company Secretary
Pwerdy Canolfan Gymunedol a Chelfyddydau
Stryd y Capel
Pont-Tyweli
Llandysul
Sir Gaerfyrddin
SA44 4AH

Cofrestwyd yng Nghymru. Rhif y Cwmni : 6022574
Rhif Elusen : 1135498