Gweithdy “Up-Cycle”
Dewch i ddiwrnod blasu yn y Pwerdy Llandysul, SA44 4AH.
Dydd Llun Ebrill 16eg, 23ain a’r 30ain
2018, 11yb tan 4yp.
Cost: £10
Tiwtor: Sue Lloyd
I archebu lle: ffoniwch: 07791 221185 Neu e-bostiwch: Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld. .
Oes ganddoch chi hên ddillad sy ddim yn eich ffitio, neu na fyddwch byth yn eu gwisgo? Ail ddarganfyddwch eich dillad a dod o hyd i ysbrydoliaeth greadigol i roi bywyd newydd iddynt!
Mae’r gweithdy cyd-greu yma ar gyfer y sawl sy â rhwyfaint o brofiad mewn defnyddio peiriant gwnïo
Y nôd yw cyd-weithio gyda syniadau a deunyddiau a mwynhau bod yn ddyfeisgar.
Bydd 4 peiriant gwnïo ar gael, neu medrwch ddod â’ch peiriant personol.
Dewch â rhai dillad glân di-angen(gweler awgrymiadau isod), siswrn miniog, pinau a thâp mesur. Bydd unrhyw ddeunydd arall yn cael ei ddarparu.
Beth i ddod ar gyfer “up-cycle” - eich dewis:
Eitemau elastigedd, ffabrig jersey, hên gardigan/siwmper, defnydd cnuog,crys T.
Unrhyw beth wedi ei wneud o wlân, deunydd naturiol,neu wlân ffelt, ffabrig, hên sgarffiau, brêd,botymau,mwclis ayyb. Ynghyd a’ch edau personol os dymunwch.
Trefnir dilyniant i’r diwrnod”Up-Cycling” os bydd digon o ddiddordeb.

Nesaf > |
---|
Yn ôl