Cyfarfod Cymdeithasol yr Artistiaid
Cwrdd yn y Pwerdy
Cyfarfod nesaf:
Dydd Iau 14eg Rhagfyr, 2-4yp
Gwahoddiad i’r holl artistiaid / crefftwyr / gwneuthurwyr yn ardal a Llandysul a thu hwnt.
Beth yw’r syniad?
Rhwydweithio cymdeithasol, cyfeillgarwch a chyfnewid syniadau a gwybodaeth am faterion yn ymwneud a CHELF yn yr ardal hon.
Pam gwneud hyn?
Fel artistiaid/gweneuthurwyr , rydym yn medru bod yn ynysig.
Y syniad yw dod at ein gilydd yn anffurfiol am goffi(neu dê) a dod i adnabod ein gilydd a gwneud ychydig o rwydweithio,a.y.y.b.
Medrwch ddod a lluniau o beth sy ar waith gennych ar hyn o bryd a gweld gwaith artistiaid/ gwneuthurwyr eraill .neu beidio!
Pryd? A pha mor aml?
Yn dilyn y cyfarfod yma medrwn gyfarfod yn fisol neu bod yn ddeufis.
Nid oes rhaid ichi ymrwymo i fynychu pob cyfarfod –dim ond fel y medrwch ac yn addas ichi. Weithiau efallai taw dim ond pump fydd yn bresennol, pryd arall efallai bydd 20, pwy wyr? –Gadewch inni ymgeisio a gweld sut aiff pethau.
Ymhle?
Yn y lle cyntaf yn y Pwerdy Llandysul. Yn y dyfodol medrwn gwrdd yn y Pwerdy neu yn tai neu stiwdio pobl.
Am fwy o fanylion cysylltwch gyda: Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld. ; Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.

< Yn ôl | Nesaf > |
---|